Equal Opportunities
At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of.
Who we are
At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing.
We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs.
Role responsibilities
This role will focus on supporting the Climate Change Team with administrative support and monitoring of Transport for Wales (TfW)’s energy and utilities usage across our owned assets included stations, offices and depots. The role will require data collection and analysis and an understanding of how effective energy and carbon management can contribute to TfW’s objectives.
- Support the organisation in its management of utilities contracts with both suppliers and landowners (e.g. Network Rail) by engaging in regular meetings, responding to queries and completing necessary paperwork to enable business continuity and meet contractual obligations.
- Supporting utilities arrangements for new or refurbished buildings before they are handed over to tenants or other third parties by engaging with relevant stakeholders and arranging meter installations to enable accurate third part billing and reporting.
- Arranging and supporting energy and climate change audits across the transport network to help identify opportunities for improved energy efficiency, climate resilience and carbon reduction and review and assess emerging new technologies to enable TfW to adopt innovative measures to adapt and mitigate against climate change.
- Support the Energy and Carbon Reduction Lead to identify opportunities to upgrade equipment, commissions and manage new equipment and management solutions and calculate the resultant energy saving and carbon savings and overall project or initiative paybacks to enable TfW to demonstrate and improve energy efficiency across the network and reduce carbon emissions.
Who we’re looking for
- Experience of monitoring, analysis and reporting of energy use and carbon data and the software available to do this.
- Experience and knowledge of energy management including low carbon and renewable technologies and sub-metering systems.
- Experience of organising energy efficiency assessments/audits
- Administrative experience to support working groups.
- Excellent communication and technical report writing skills.
Welsh Language Skills
The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role.
Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Next steps
Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details.
TFW is a Disability Confident employer. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful.
This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible.
Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications.
If you have submitted an application for this role within the last 6 months and were unsuccessful, please do not re-apply as regrettably, your application will not be considered.
Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship.
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Cyfrifoldebau’r swydd
Bydd deiliad y swydd hon yn canolbwyntio ar helpu’r Tîm Newid Hinsawdd i weinyddu a monitro defnydd Trafnidiaeth Cymru o ynni a chyfleustodau ar draws yr asedau sy’n eiddo i ni, gan gynnwys gorsafoedd, swyddfeydd a depos. Bydd gofyn i ddeiliaid y swydd gasglu a dadansoddi data, a deall sut gall rheoli ynni a charbon yn effeithiol gyfrannu at amcanion TrC.
- Helpu’r sefydliad i reoli contractau cyfleustodau gyda chyflenwyr a thirfeddianwyr (e.e. Network Rail) drwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd, ymateb i ymholiadau a chwblhau’r gwaith papur angenrheidiol i alluogi parhad busnes ac i gyflawni rhwymedigaethau contract.
- Cefnogi trefniadau cyfleustodau ar gyfer adeiladau newydd neu adeiladau wedi’u hadnewyddu cyn iddynt gael eu trosglwyddo i denantiaid neu drydydd partïon eraill drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, a threfnu bod mesuryddion yn cael eu gosod er mwyn galluogi biliau ac adroddiadau cywir gan drydydd partïon.
- Trefnu a chefnogi archwiliadau ynni a newid hinsawdd ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth i helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni, cydnerthedd hinsawdd a lleihau carbon, ac adolygu ac asesu technolegau newydd sy’n dod i’r amlwg i alluogi TrC i fabwysiadu mesurau arloesol i addasu a lliniaru yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
- Helpu’r Arweinydd Ynni a Lleihau Carbon i ganfod cyfleoedd i uwchraddio offer, comisiynau a rheoli offer ac atebion rheoli newydd, a chyfrifo’r arbedion ynni a charbon canlyniadol, a’r taliadau cyffredinol ar gyfer prosiectau neu fentrau er mwyn galluogi TrC i ddangos a gwella effeithlonrwydd ynni ar draws y rhwydwaith, ac i leihau allyriadau carbon.
Am beth rydyn ni’n chwilio
- Profiad o fonitro, dadansoddi ac adrodd ar ddata carbon a defnyddio ynni, ac o’r feddalwedd sydd ar gael i wneud hyn.
- Profiad a gwybodaeth am reoli ynni, gan gynnwys technolegau carbon isel ac adnewyddadwy, a systemau is-fesuryddion.
- Profiad o drefnu asesiadau/archwiliadau effeithlonrwydd ynni
- Profiad gweinyddol i gefnogi gweithgorau.
Sgiliau Iaith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.
Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.